Mae’r cysylltiadau rhwng ffotograffiaeth ac amser yn amryfal: gellir cynrychioli amser yn uniongyrchol o fewn y ddelwedd, gall fod yn thema ac yn orwel athronyddol iddi, a gall hefyd gynrychioli’r fframwaith hanesyddol a chysyniadol i’r modd y bydd dulliau ffotograffig yn datblygu ac yn newid dros amser.
Mae’r holl elfennau hyn yn cwrdd yng nghelf f&d cartier, dau artist Swisaidd sy’n byw ac yn gweithio yn Biel/Bienne, y Swistir. Ers 1995 maent wedi cyfuno’u dau faes, celfyddydau plastig a ffotograffiaeth, a chreu hunaniaeth artistig unedig er mwyn darganfod ffyrdd newydd o fynd ati. Gan archwilio rhagofynion anhepgor ffotograffiaeth, goleuni a phapur ffotosensitif, gwnânt weithiau ‘di-gamera’ yn bennaf yn cynnwys gwrthrychau cael. Mae’r ddau gorff o waith sy’n destun y cyhoeddiad hwn, Wait and See a Veni Etiam, yn enghraifft o’u tueddiadau lleiafsymiol, a’r modd y maent yn cwestiynu bywyd beunyddiol, agosatrwydd, treigl amser.
Testunau gan David Drake a Rudolf Scheutle. Cyhoeddwyd gan Ffotogallery i gydfynd â’r arddangosfa f&d cartier – Wait and See: A Retrospective a ddangosir yn Ffotogallery, 22 Mehefin – 27 Gorffennaf 2013.