Yn ôl i ffotogallery.org

Danfon a Dychwelyd

Danfoniad

NODWCH: Dim ond i'r Deyrnas Unedig yr ydym yn cludo eitemau ar hyn o bryd. Byddwn yn cludo eitemau'n rhyngwladol o Ddydd Llun 15 Mawrth 2021.

Y Deyrnas Unedig

Rydym yn anfon ein holl archebion yn y DU drwy wasanaeth Danfon 2il Ddosbarth y Post Brenhinol. Mae’r costau danfon yn cael eu cyfrifo ar y dudalen dalu ac maen nhw wedi eu seilio ar bwysau eich archeb. Er na allwn warantu hynny, mae archebion fel arfer yn cyrraedd 2-3 diwrnod busnes ar ôl diwrnod eu hanfon. Os byddwch angen dull danfon gwahanol sy’n gyflymach, anfonwch e-bost atom ar info@ffotogallery.org cyn gwneud eich archeb ar-lein a byddwn yn ceisio ateb eich gofynion.

Gweddill y Byd

Rydym yn anfon pob archeb ryngwladol drwy wasanaethau Rhyngwladol Safonol / Economi y Post Brenhinol, hyd at bwysau o 2kg. Er na allwn warantu hynny, bydd archebion fel arfer yn cyrraedd rhwng 2 a 12 wythnos ar ôl y dyddiad anfon. Os byddwch angen dull danfon gwahanol sy’n gyflymach, neu os yw eich archeb yn fwy na’r cyfyngiad pwysau o 2kg, anfonwch e-bost atom os gwelwch yn dda ar info@ffotogallery.org cyn gwneud eich archeb ar-lein a byddwn yn ceisio ateb eich gofynion.

Os byddwch yn archebu cynhyrchion o’n gwefan i gael eu danfon y tu allan i’r DU, efallai y bydd rhaid talu trethi a thollau mewnforio sy’n cael eu codi pan fydd y danfoniad yn cyrraedd y cyrchnod penodol. Chi fydd yn gyfrifol am dalu trethi a thollau mewnforio fel hyn. Nodwch os gwelwch yn dda nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y costau hyn ac ni allwn ragweld faint fydden nhw. Cysylltwch â’ch swyddfa dollau leol i gael rhagor o wybodaeth cyn gwneud eich archeb os gwelwch yn dda.


Ad-daliadau a Dychwelyd Nwyddau

Os nad ydych yn fodlon gydag unrhyw nwyddau yr ydych wedi eu prynu ar-lein, neu os ydych wedi newid eich meddwl, mae gennych yr hawl i ganslo eich archeb yn y 14 diwrnod o ddyddiad derbyn y nwyddau. I ganslo, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen drwy e-bost neu yn y post gan ddefnyddio’r manylion isod a dweud wrthym eich bod eisiau canslo’r archeb ac (os byddwch eisiau gwneud hynny) eich rhesymau am ganslo.

Mae’n rhaid i chi ddychwelyd y cynhyrchion atom yn y cyflwr y cawsent eu derbyn. Chi fydd yn gyfrifol am drefnu dychweliad diogel unrhyw gynhyrchion nad ydych eu heisiau a chi fydd yn talu’r costau hynny hefyd. Os ydych am ganslo’r archeb oherwydd cyflwr y cynhyrchion pan gawsent eu derbyn, byddwn ni’n talu’r costau i’w hanfon nhw yn ôl atom. 

Darllenwch ein telerau ac amodau llawn i gael rhagor o fanylion.


Manylion Cyswllt 

E-bost: info@ffotogallery.org

Cyfeiriad: Ffotogallery Wales Ltd, The Old Sunday School, Fanny Street, Cathays, Caerdydd, CF24 4EH