Yn ôl i ffotogallery.org

Telerau gwasanaeth

1. Amdanom Ni

Mae www.ffotogallery.org yn safle a weithredir gan Ffotogallery Wales LTD, sef cwmni nid-er-elw cyfyngedig trwy warant (rhif y cwmni: 01705938 a rhif TAW: GB 531741367) a’i swyddfa gofrestredig (a’i gyfeiriad masnachu) yw The Former Sunday School Rooms, Fanny Street, Cathays, Caerdydd, CF24 4EH.

Mae’r cyfeiriadau at “ni” yn yr amodau a thelerau hyn yn cyfeirio at Ffotogallery.

  1. Argaeledd

2.1.  Mae pob nwydd a gynigir ar y wefan hon yn amodol ar argaeledd. Os na allwn gyflenwi’r nwyddau i chi, am unrhyw reswm sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni, byddwn yn rhoi gwybod i chi gynted ag y gallwn drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi ei roi i ni.

2.2.  Mae’r manylion am y nwyddau sydd i’w cael ar y wefan wedi eu bwriadu i fod yn ddisgrifiadau cyffredinol ac ni fwriedir i’r manylion hyn fod yn rhwymol.

  1. Archebu

3.1.  Cewch archebu cynhyrchion o’r Wefan drwy lenwi ffurflen archebu a’i chyflwyno drwy’r broses dalu.

3.2.  Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich archeb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad yr ydych wedi ei roi a bydd anfoniad yr e-bost hwn (p’un a ydyw’n cael ei dderbyn ai peidio) yn creu’r contract rhyngom ni. Rydym yn cadw’r hawl i beidio derbyn archeb am unrhyw reswm.

  1. Y Pris a’r Taliad

4.1. Y prisiau sy’n daladwy am y nwyddau yw’r prisiau sydd wedi eu nodi ar ein gwefan ar yr adeg y gwnewch chi’r archeb (y “Pris”). Mae’r Pris wedi’i ddyfynnu mewn £ (punnoedd sterling) ac mae’n cynnwys TAW ond nid yw’n cynnwys ein ffi ni am ddanfon y nwyddau. Bydd y gost honno wedi ei chodi ar y cyfraddau sy’n berthnasol ar y dyddiad y gwnewch chi’r archeb.

4.2.  Rydym yn ceisio sicrhau bod yr holl brisiau ar ein gwefan yn gywir. Fodd bynnag, os oes gwall prisio byddwn yn rhoi gwybod i chi ar yr e-bost ac:

  1. (a) os yw’r pris yn is, byddwn yn ad-dalu’r gwahaniaeth;
  2. os yw’r pris cywir yn uwch, bydd gennych yr opsiwn o:
    1. ganslo’r archeb a byddwn yn cynnig ad-daliad i chi; neu
    2. gadarnhau’r archeb am y pris cywir.

4.3.  Nid oes rhwymedigaeth arnom i gyflenwi’r nwyddau i chi am y pris anghywir.

4.4.  Cadwn yr hawl i newid y Pris unrhyw bryd i adlewyrchu unrhyw gynnydd mewn costau i ni y gellir eu cysylltu â ffactorau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth; gan gynnwys, ond heb eu cyfyngu i, unrhyw amrywiaeth yng nghost y defnyddiau, cludiant, llafur neu dollau, trethi neu gostau cynhyrchu eraill. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw gynnydd o’r fath mewn pris cyn danfon ac yna gallwch chithau ddewis canslo’r archeb (neu ran ohoni) sy’n gysylltiedig â’r nwyddau hyn unrhyw bryd cyn eu danfon, heb greu unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chanslo fel hyn. 

4.5.  Bydd y Pris, ynghyd â’r gost ddanfon berthnasol, yn daladwy gennych chi ar adeg gosod eich archeb am nwyddau.

4.6.  Gallwch wneud y taliadau ar-lein drwy borth talu Shopify Pay. Mae Shopify Pay yn derbyn y dulliau talu a ganlyn: Visa, Mastercard, American Express, Maestro, Shop Pay, Apple Pay a Google Pay.

        5. Danfoniad

5.1.  Bydd y nwyddau’n cael eu danfon i’r cyfeiriad a roddir gennych chi ar y ffurflen archebu gyflawn.

5.2.  Byddwn yn ymdrechu i ddanfon yr archeb atoch fel a ganlyn:

  1. ar gyfer danfon i gyfeiriad yn y DU, o fewn 7 Diwrnod Gwaith (h.y. Dydd Llun i Ddydd Gwener, heb gynnwys y penwythnosau a gwyliau cyhoeddus y DU) ar ôl i chi wneud eich archeb; ac
  2. ar gyfer danfon i gyfeiriad rhyngwladol neu yn yr UE, o fewn 20 Diwrnod Gwaith ar ôl i chi wneud eich archeb; ac
  3. ar gyfer danfon i gyfeiriad y tu allan i’r UE, o fewn 60 Diwrnod Gwaith ar ôl i chi wneud eich archeb.

5.3.  Bydd unrhyw ddyddiadau danfon a rown ni yn ddyddiadau wedi eu hamcangyfrif yn unig ac ni fydd gennych yr hawl i wrthod derbyn danfoniad hwyr neu drin danfoniad hwyr fel toriad contract gennym ni.

5.4.  Ni fyddwn yn danfon i gyfeiriad blwch swyddfa bost (Blwch PO). Rydym hefyd yn cadw’r hawl i beidio danfon i gyfeiriad swyddfa bost comunol. Rhaid i’r cyfeiriad a ddarparwch fod â chod post dilys.

5.5.  Os nad oes unrhyw un yn y cyfeiriad pan geisir gadael y nwyddau, gallai’r gyrrwr gadw’r nwyddau ac, os bydd yn gwneud hynny, bydd yn gadael nodyn i’ch hysbysu am y cais i’w trosglwyddo i chi. Os bydd raid i’r negesydd ddychwelyd i drosglwyddo’r nwyddau rywbryd arall, efallai y bydd cost ddanfon bellach yn daladwy.

5.6 Bydd y nwyddau i gyd yn cael eu danfon drwy’r Post Brenhinol 2il ddosbarth (DU), Safon Ryngwladol (UE) ac Economi Rhyngwladol (Gweddill y Byd) heblaw bod trefniadau gwahanol wedi eu cytuno gyda chi o flaen llaw.

         6. Tollau mewnforio

6.1.  Os byddwch yn archebu nwyddau o’n gwefan i’w danfon y tu allan i’r DU, efallai y bydd trethi a thollau mewnforio i’w talu arnynt a chodir y rhain pan fydd y danfoniad yn cyrraedd y cyrchnod penodol. Byddwch chi’n gyfrifol am dalu unrhyw drethi a thollau mewnforio o’r fath. Nodwch os gwelwch yn dda nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y costau hyn ac ni allwn ragweld faint fydden nhw. Cysylltwch â’ch swyddfa dollau leol os gwelwch yn dda i gael rhagor o wybodaeth cyn i chi osod eich archeb.

6.2.  Nodwch os gwelwch yn dda bod yn rhaid i chi gydymffurfio â holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol y wlad y mae’r cynhyrchion i gael eu danfon iddi. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw beth a wnewch chi i dorri unrhyw gyfreithiau o’r fath

         7. Perchnogaeth y Nwyddau

7.1.  Bydd perchnogaeth y nwyddau’n pasio i chi pan fydd y nwyddau wedi eich cyrraedd chi. Ni fydd y nwyddau’n cael eu hanfon nes byddwn wedi derbyn taliad llawn y Pris a hwnnw wedi clirio, ynghyd ag unrhyw gostau danfon sy’n daladwy gennych.

7.2.  Bydd y risg o ddifrod i’r nwyddau neu golled y nwyddau’n pasio i chi ar yr adeg pan fydd y nwyddau wedi eich cyrraedd chi.

         8. Polisi Dychweliadau

8.1.  Rydym yn gweithredu polisi dychweliadau ‘dim mân-ddadlau’ fel a ganlyn:

  1. Os nad ydych yn fodlon gydag unrhyw nwyddau rydych wedi eu prynu ar-lein, neu os ydych wedi newid eich meddwl, mae gennych yr hawl i ganslo eich archeb am 14 diwrnod o ddyddiad derbyn y nwyddau. Yn yr achos hwn, byddwch yn derbyn ad-daliad llawn o’r Pris a dalwyd am y nwyddau yn amodol ar gydymffurfiad â’n polisi ad-daliadau (sydd wedi ei nodi yng nghymal 10);
  2. I ganslo archeb, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni mewn ysgrifen drwy e-bost neu yn y post (gan nodi’r rheswm am ddychwelyd y nwyddau) a dychwelyd y nwyddau yn yr un cyflwr ag y derbynioch chi nhw, heb eu defnyddio ac yn eu deunydd pacio gwreiddiol gyda’r anfoneb wreiddiol, a hynny ar eich cost a’ch risg chi eich hun, o fewn 28 diwrnod wedi i chi dderbyn y nwyddau.
  3. Mae gennych chi rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’r nwyddau tra byddent yn eich meddiant chi a dylech anfon y nwyddau yn ôl drwy ddosbarthiad a gofnodwyd atom ni yn Ffotogallery, The Old Sunday School Rooms, Fanny Street, Caerdydd, CF24 4EH fel bod gennych dystiolaeth i ddangos ei fod wedi ei bostio, oherwydd ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am nwyddau sydd wedi mynd ar goll neu wedi eu difrodi wrth gael eu cludo. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’ch rhwymedigaeth i ddychwelyd y nwyddau yn yr un cyflwr ag y derbynioch chi nhw, ein dewis ni fydd hi a ydym am roi ad-daliad ai peidio.
  4. Os na fyddwch yn dychwelyd y nwyddau o fewn yr amseriadau uchod, byddwn yn tybied eich bod yn fodlon â’r nwyddau ac ni fydd gennych hawl i dderbyn ad-daliad.

           9. Nid yw unrhyw beth yn yr amodau a thelerau hyn yn effeithio ar eich hawliau             statudol.

          10. Ad-daliadau/Nwyddau Diffygiol

10.1.  Os byddwch chi’n dychwelyd nwyddau atom am eich bod wedi canslo eich archeb, byddwn yn prosesu’r ad-daliad sy’n ddyledus i chi gynted ag sy’n bosibl, ac mewn unrhyw achos, o fewn 30 diwrnod wedi i ni dderbyn y nwyddau a ddychwelwyd. Yn yr achos hwn, byddwn yn ad-dalu Pris y nwyddau’n llawn (ac eithrio costau postio).

10.2.  Os byddwch eisiau derbyn ad-daliad am fod y nwyddau’n ddiffygiol, mae’n rhaid dychwelyd y nwyddau atom yn yr un cyflwr ag y cawsoch chi nhw, a hynny o fewn 28 diwrnod o’r dyddiad y derbynioch chi’r nwyddau. Byddwn yn archwilio’r nwyddau a ddychwelwyd a byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn e-bost o fewn cyfnod rhesymol o amser a ydym yn cytuno bod y nwyddau’n ddiffygiol. Os byddwn yn cytuno bod y nwyddau’n ddiffygiol, byddwn fel arfer yn prosesu’r ad-daliad sy’n ddyledus i chi gynted ag y gallwn ac, mewn unrhyw achos, o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod pan gadarnhawyd i chi mewn e-bost bod hawl gennych i gael ad-daliad. Byddwn yn ad-dalu’r costau danfon am anfon y nwyddau atoch a’r gost i chi o ddychwelyd y nwyddau diffygiol atom ni, yn ogystal â’r Pris.

         11. Diogelwch a Phreifatrwydd

11.1. Mae Shopify yn casglu gwybodaeth gennych chi ar ran Ffotogallery. Mae’r wybodaeth a ddarparwch amdanoch chi’ch hun fel eich enw, cyfeiriad bilio, cyfeiriad danfon, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a’r manylion talu, oll yn ein galluogi ni i weithredu ein busnes. Mae Shopify hefyd yn casglu gwybodaeth am y ffordd yr ydych yn mynd i mewn i’n gwefan ni a’u gwefan nhw, gan gynnwys gwybodaeth am y ddyfais a’r porwr a ddefnyddiwch, eich cysylltiad â’r we, eich cyfeiriad IP, a manylion am y ffordd yr ydych yn pori drwy’r platfform. Defnyddir ‘Cwcis’ i gasglu rhywfaint o’r wybodaeth hon. Mae’r wybodaeth yn rhoi dadansoddeg i Ffotogallery sy’n ein galluogi i dracio faint o bobl sy’n ymweld â’n siop, ac yn ein helpu i ymdrin â phroblemau a gwneud gwelliannau cyffredinol. Gwelwch y Polisi Cwcis a’r Polisi Preifatrwydd sydd gan Shopify er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y ffordd y maen nhw’n casglu ac yn storio eich data.

11.2. Ni fydd Ffotogallery yn cadw data personol yn hirach nag sydd raid at y diben y casglwyd y data iddo, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ddileu’n ddiogel pan na fydd ei angen bellach. Byddwn yn adolygu’r data er mwyn lleihau’r risg y bydd yn mynd yn anghywir, angen ei ddiweddaru neu’n amherthnasol. Os byddwch yn gweld unrhyw wallau yn y data a ddaliwn, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda drwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion sydd ar waelod y dudalen hon.

11.3. Ni fyddwn yn gwerthu nac yn rhannu unrhyw wybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata. Rydym yn sicrhau bod rheoliadau technegol priodol yn eu lle i ddiogelu eich manylion personol. Bydd yr wybodaeth bersonol a ddarparwch yn cael ei dal yn ddiogel ac ni fyddwn yn ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw hwnnw y darperir ar ei gyfer yn y polisi hwn. Gwelwch ein Polisi Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn casglu ac yn storio eich data.

          12. Cyfyngiad ar Atebolrwydd

12.1.  Nid yw unrhyw beth yn yr amodau hyn:

  1. yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd o dan ran 1 Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987 neu am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni; neu
  2. yn effeithio ar eich hawliau o dan Adrannau 12 i 15 Deddf Gwerthu Nwyddau 1979 (fel y’i diwygiwyd) neu unrhyw hawliau statudol eraill sydd gennych fel defnyddiwr.

12.2.  Ni fyddwn yn atebol i chi am:

  1. unrhyw ddatganiad a wnaed (heblaw yn dwyllodrus); neu
  2. unrhyw golled, costau neu draul anuniongyrchol, arbennig neu ôl-ddilynol sy’n codi allan o, neu mewn cysylltiad â, chyflenwi’r nwyddau.

12.3.  Heblaw ei fod mewn perthynas â marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni, ni fydd ein hatebolrwydd cyfan o dan y Contract, neu mewn cysylltiad ag o, yn mynd y tu hwnt i’r Pris am unrhyw reswm.

        13. Digwyddiadau y tu hwnt i’n Rheolaeth

Os na allwn weithredu unrhyw rai o’n goblygiadau o dan y Contract oherwydd digwyddiad neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth gan gynnwys, er enghraifft, y ffaith nad yw defnyddiau neu eitemau eraill ar gael gan ein cyflenwyr, yna ni ystyrir bod methiant fel hyn yn torri ein goblygiadau a/neu’r Contract hyd nes daw’r amser (os daw amser o’r fath) y gallwn ni weithredu goblygiadau o’r fath.

        14. Terfyniad

Heb amharu ar unrhyw hawliau eraill a allai fod ar gael i chi, p’un a yw hynny o dan yr amodau hyn neu’n gyfreithiol, os ydych yn:

  1. torri unrhyw rai o amodau’r Contract; neu yn
  2. mynd yn fethdalwr

bydd gennym yr hawl i derfynu’r Contract drwy roi rhybudd ysgrifenedig i chi.

          15. Yr Hawl i Amrywio’r Amodau a Thelerau Hyn

15.1.  Mae gennym yr hawl i adolygu a diwygio’r amodau a thelerau hyn o bryd i’w gilydd i adlewyrchu newidiadau yng nghyflwr y farchnad sy’n effeithio ar ein busnes, newidiadau mewn technoleg, newidiadau mewn dulliau talu, newidiadau mewn cyfreithiau perthnasol a gofynion rheoliadol, a newidiadau yng ngalluoedd ein system.

15.2.  Byddwch chi’n atebol i’r amodau a thelerau sydd mewn grym ar yr adeg pan archebwch nwyddau gennym, heblaw bod angen gwneud unrhyw newid i’r amodau a thelerau hyn oherwydd gofynion y gyfraith neu awdurdod llywodraethol (yn yr achos hwnnw, bydd yn berthnasol i archebion a wnaed gynt gennych chi), neu os byddwn yn rhoi gwybod i chi am y newid i’r amodau a thelerau hyn cyn i ni anfon y Cadarnhad atoch chi (yn y sefyllfa honno mae gennym yr hawl i dybio eich bod wedi derbyn y newid yn yr amodau a thelerau, heblaw eich bod yn rhoi gwybod yn wahanol i ni o fewn saith (7) diwrnod gwaith ar ôl i chi dderbyn y nwyddau).

           16. Sylwadau neu Gwynion

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i info@ffotogallery.org neu ffoniwch ni ar (029) 2034 1667.