Cyhoeddwyd Route to Roots ochr yn ochr ag arddangosfa fywiog newydd yn Ffotogallery o ffotograffau, gwisgoedd a fideos sy’n ymchwilio arwyddocâd y celfyddydau carnifal mewn siapio hunaniaeth gymunedol yn y Deyrnas Unedig, Affrica a’r Caribî. Tyfodd Route to Roots allan o ymchwil estynedig gan yr artist o Gaerdydd, Adeola Dewis, i’r ffordd mae Carnifal yn berfformiad o ail-gyflwyniad, yn cyfuno treftadaeth ddiwylliannol a straeon o arwyddocâd hanesyddol, athronyddol ac ysbrydol y profiad gwasgarol Affricanaidd. Y syniad oedd dangos sut mae modd rhannu’r straeon a’r traddodiadau hyn drwy wisgoedd, cerddoriaeth a dawns mewn man cyhoeddus.