Mae Ffotogallery yn cydweithio â’r ffotograffydd o Detroit, Patricia Lay-Dorsey, er mwyn cynhyrchu ei llyfr Falling into Place, cyhoeddiad sy’n seiliedig ar gyfres o hunan-bortreadau gan yr artist.
Clywodd Lay-Dorsey ei bod yn dioddef o sglerosis ymledol ym 1988 ac yn 2008 dechreuodd dynnu hunanbortreadau dyddiol gyda’r bwriad o ddangos bywyd bob dydd person ag anabledd o’r tu mewn, fe petai. Meddai Patricia: “Pan ewch chi ati i bwyntio’r camera atoch chi eich hun, does ‘na ddim modd cuddio. Fel person ag anabledd, dw i’n cael fy synnu gan deimladau o gywilydd pan af ati i ddangos yr heriau dw i’n eu hwynebu yn fy mywyd o ddydd i ddydd. Fel ffotograffydd, mae dogfennu’r heriau hyn yn brofiad diddorol yn hytrach na phrofiad sy’n ennyn cywilydd. Ac fel gwyliwr, dw i’n gweld pa mor galed mae fy nghorff yn gweithio er mwyn gwneud yr hyn dw i’n gofyn iddo’i wneud. Fe ddechreuais i’r prosiect hwn gyda’r nod o newid agweddau pobl eraill, ond dw i’n sylweddoli erbyn hyn taw f’agweddau fy hun yr oeddwn i angen eu newid.”
Cafodd y llyfr ei ddylunio gan Victoria Forrest o Fryste a bydd yn cael ei gyhoeddi gan Ffotogallery – gyda rhagair gan y ffotograffydd Magnum o fri, David Alan Harvey.