Daw Marcelo Brodsky o’r Ariannin ac mae’n artist a gweithredwr dros hawliau dynol sy’n gweithio gyda lluniau a dogfennau o ddigwyddiadau penodol i ymchwilio materion cymdeithasol, gwleidyddol a hanesyddol ehangach. Mae gwaith Brodsky, 1968 – The Fire of Ideas, yn cynnwys lluniau archif o wrthdystiadau myfyrwyr a gweithwyr o amgylch y byd, wedi eu hanodi’n ofalus â’r llaw er mwyn dadadeiladu’r hyn oedd yn sail i’r cynnwrf cymdeithasol byd-eang yn yr 1960au hwyr. Mae lluniau o wrthdystiadau yn erbyn rhyfel Fietnam yn Llundain a Tokyo, ochr yn ochr â phrotestiadau yn Bogota, Rio de Janeiro, México, Prague a San Paolo yn erbyn cyfundrefnau milwrol a strwythurau llywodraethol gormesol.