Yn ôl i ffotogallery.org

Chronicle - Amrywiol
Chronicle - Amrywiol
Chronicle - Amrywiol
Chronicle - Amrywiol
  • Load image into Gallery viewer, Chronicle - Amrywiol
  • Load image into Gallery viewer, Chronicle - Amrywiol
  • Load image into Gallery viewer, Chronicle - Amrywiol
  • Load image into Gallery viewer, Chronicle - Amrywiol

Chronicle - Amrywiol

Pris arferol
£10.00
Y pris yn yr arwerthiant
£10.00
Pris arferol
£20.00
Does dim ar ôl
Pris fesul uned
per 
​Cyfrifir chostau cludiant yn y man talu.

Ym mis Medi 1978, agorwyd yr oriel gyntaf yng Nghymru oedd yn ymwneud â ffotograffiaeth yn unig. Roedd hon yn Stryd Charles, Caerdydd a’i henw ar y pryd oedd Yr Oriel Ffotograffeg. Newidiodd ei henw i Ffotogallery yn 1981 ac mae’r sefydliad yn dal i ffynnu ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae Chronicle yn defnyddio deunydd cyfoes a deunydd o’r archifau i adrodd stori datblygiad Ffotogallery dros y deugain mlynedd, ar gefndir y newidiadau a gafwyd yn rolau a natur ffotograffiaeth mewn cymdeithas a datblygiad y diwylliant digidol. O’r dechrau, mae Ffotogallery wedi rhoi sylw i ffotograffwyr ac artistiaid sydd megis cychwyn eu gyrfaoedd, pobl megis Martin Parr, Paul Graham, Helen Sear a Bedwyr Williams sydd wedi mynd yn eu blaenau i fwynhau llwyddiant rhyngwladol. Mae’n dogfennu ffocws hirsefydlog Ffotogallery ar Gymoedd De Cymru drwy gyfres o gomisiynau ac arddangosfeydd sy’n dogfennu’r Cymoedd mewn amrywiol agweddau yn ystod cyfnod o weddnewidiad cyflym. Mae Chronicle hefyd yn dathlu cysylltiadau rhyngwladol Ffotogallery, drwy gyhoeddiadau ac arddangosfeydd teithiol, menter European Prospects, Cymru yn Fenis 2015, prosiect Dreamtigers India-Cymru a thri rhifyn o’r cyhoeddiad dwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.

Mae Chronicle yn gosod y sylfeini ar gyfer cam nesaf gwaith Ffotogallery, lle bydd cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid trwy’r lens yn dod i’r amlwg mewn cyfnod pan rydym yn derbyn ac yn cyflwyno cynnwys creadigol fwy a mwy ar blatfformau ffisegol a rhithwir. Am fod cymaint o ddelweddau’n cael eu rhannu ar-lein, a fydd galw o hyd am orielau celf ac arddangosfeydd traddodiadol? Os felly, pa waith fydd yn cael ei gyflwyno ym mha fathau o leoedd? Pa sgiliau sydd eu hangen ar ffotograffwyr ac artistiaid i adeiladu gyrfa lwyddiannus? Sut all Cymru gael mwy o gysylltiad byd-eang drwy ffotograffiaeth a chyfryngau digidol?