Mae gwaith Marcelo Brodsky yn sefyll ar y groesffordd rhwng celfyddyd weledol, barddoniaeth ac ymgyrch dros hawliau dynol. Gan ddefnyddio lluniau o archifau dogfennol, mae’n ychwanegu sylwadau â’r llaw ac yn tynnu sylw at fanylion gyda lliwiau llachar, gan ysgogi deialog rhwng y naratif oedd yn bodoli’n barod yn y ffotograffau gwreiddiol a’i ddehongliadau ef ei hun. Mae ‘Poetics of Resistance’ yn cynnwys dau grŵp mawr o weithiau a grëwyd rhwng 2014 a 2019, ar brotestiadau rhyngwladol 1968 ac ar y broses ddadwladychu yn Affrica ynghanol yr 20fed ganrif, ac hefyd ymholiadau parhaus i wrthsafiad yn erbyn Franco yn Sbaen a’r pwnc argyfyngus cyfoes o ymfudwyr a ffoaduriaid.