I nodi diwedd y prosiect cydweithredol Ewropeaidd dwy flynedd A Woman’s Work, mae Ffotogallery wedi cynhyrchu cyhoeddiad etifeddol sy’n dathlu’r holl artistiaid, curaduron a phartneriaid a gyfrannodd at y gwaith.
O ran y rôl a chwaraeodd y merched mewn swyddi ym maes technoleg a diwydiant yn Ewrop wedi’r rhyfel, doedd eu stori hwy ddim wedi ei hadrodd o’r blaen. Roedd archifau clyweled yn tueddu i ganolbwyntio ar ‘ddiwydiannau trwm’ y byddai dynion yn gweithio ynddynt fel arfer megis glo, haearn a dur, neu sectorau peirianneg graddfa fawr fel adeiladu llongau, adeiladu, aerofod a gweithgynhyrchu ceir. Ac eto roedd merched yn dal i chwarae rôl allweddol mewn llawer o ddiwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaethu – er enghraifft, tecstilau, electroneg, bwyd a diod, plastigau a deunydd fferyllol – ffaith sydd heb ei chydnabod na’i chynrychioli’n gryf yn archifau diwylliannol Ewrop.
Mae A Woman’s Work’ yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau digidol i gywiro’r diffyg hwnnw drwy waith artistig ar y cyd a chyfnewid gwaith ar draws ffiniau, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r ffordd y mae diwydiant a’r rhywiau’n cael eu gweld fel arfer yn Ewrop. Mae’r prosiect yn archwilio’r berthynas newidiol rhwng y cartref a’r gweithle, a sectorau twf fel y diwydiant cyllid, y cyfryngau a thelegyfathrebu, lle mae gwaith merched yn cael ei ailddiffinio drwy ddatblygiadau technolegol a datblygiadau wedi’r globaleiddio.
Mae A Woman’s Work yn brosiect sydd wedi’i ariannu gan Creative Europe a’i ddarparu gan Ffotogallery (Caerdydd, Cymru), Gallery of Photography Ireland (Dulyn, Iwerddon) ac Undeb Artistiaid Ffotograffiaeth Lithwania (Kaunas, Lithwania), gyda chefnogaeth Whack n Bite (Y Ffindir), Chateau D’Eau (Ffrainc) a Fotosommer Stuttgart (Yr Almaen).