Mae Inside the View yn dod â chyrff allweddol o waith a gynhyrchwyd gan Helen Sear yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf ynghyd am y tro cyntaf, gan adlewyrchu ymchwil yr artist i’r berthynas rhwng lliw a ffurf, ffigwr a thir, y gweledig a’r anweledig.
Mae gwaith ffotograffig Helen Sear wedi datblygu o gefndir celfyddyd gain mewn perfformio, ffilm a gosodweithiau yn y 1980au, ac mae’n parhau i archwilio syniadau am olwg, cyffyrddiad a chynrychioli natur profiad, gan gyfuno lluniadu, cyfryngau’n seiliedig ar lens a thechnolegau digidol.
Mae gwaith Sear yn herio’r farn gyffredin am ffotograffiaeth fel cyfrwng dogfennol, gan gwestiynu ei berthynas fynegeiol â’r byd. Hwyrach bod ffotograffiaeth, boed yn ei ffurf analog neu ddigidol, yn ein galluogi i weld manylion arwynebol gwrthrychau o bellter agos, ond wrth wneud hynny, â’n profiad canfyddiadol ohonynt yn fwy amwys a gwasgeredig, gan roi camargraff o’u hundod a’u cydlyniad.
Yn cynnwys traethodau gan David Chandler a Sharon Morris.