Yn y monograff hwn, mae’r artist Corinne Silva yn ystyried sut mae garddio, fel mapio, yn ffordd o ddynodi tiriogaeth. Rhwng 2010 a 2013, gwnaeth Silva gyfres o ymweliadau â thiriogaethau meddianedig Israel. Teithiodd drwy ddwy ar hugain o aneddiadau Israelaidd yn tynnu lluniau o erddi cyhoeddus a phreifat. Mae Silva yn cyflwyno’r daith ffotograffig goeth hon ac yn archwilio sut mae’r gerddi yn y tiroedd meddianedig hyn yn dystiolaeth symbolaidd a materol o wladychu sy’n parhau.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys bwrdd tacsonomegol o blanhigion cytrefu gan Sabina Knees (botanegwr planhigion o’r Dwyrain Canol yng Ngerddi Botanegol Brenhinol Caeredin), traethawd gan yr Athro Val Williams (curadur a Chyfarwyddwr y Photography and the Archive Research Centre) a’r artist yn sgwrsio gyda’r Athro Eyal Weizman (pensaer a Chyfarwyddwr Pensaernïaeth Fforensig) gan fyfyrio ar y gwaith a’r berthynas wleidyddol rhwng gerddi a gwladychiad sydd wedi bodoli ers y ddeunawfed ganrif hyd y cyfnod presennol. Mae Garden State wedi ei gyd-gynhyrchu gan Ffotogallery, Caerdydd, The Mosaic Rooms, Llundain, a’r Photography and the Archive Research Centre (PARC) UAL, London College of Communication, a gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, A.M. Qattan Foundation ac University of the Arts Llundain.